SL(6)375 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (“Rheoliadau 2009”), sy'n darparu ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy'n amodol ar incwm yng Nghymru a Lloegr.

Mae Rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gostyngiad dros dro yn y gyfradd llog ar fenthyciadau israddedig a bennir yn rheoliadau 21A a 21C, a benthyciadau gradd ôl-raddedig a bennir yn rheoliad 21B, o Reoliadau 2009. Mae’r gyfradd llog wedi’i gosod ar 7.3% ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Medi 2023 ac yn dod i ben ar 30 Tachwedd 2023 ac, yn ymarferol, mae’n berthnasol i fenthycwyr Cynllun 2 a Chynllun 3. Ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd y gyfradd llog yn dychwelyd i'r gyfradd wreiddiol a nodir yn Rheoliadau 2009, oni bai bod rheoliadau pellach yn cael eu dwyn i rym.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn egluro (ym mharagraff 4.2) y byddai cyfraddau llog ar fenthyciadau, heb ymyrraeth, yn cynyddu i rhwng 12.91% a 15.91% ar gyfer benthycwyr Cynllun 2, ac i 15.91% ar gyfer benthycwyr Cynllun 3.

Y weithdrefn

Negyddol Cyfansawdd.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.

Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. Gall Senedd y Deyrnas Unedig hefyd ddirymu'r Rheoliadau, yn unol â'r rheolau ar gyfer dirymu sy'n gymwys i Senedd y Deyrnas Unedig.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, felly mae’r Rheoliadau: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y DU.  O ganlyniad, gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio fel a ganlyn:

Fe wnaed Rheoliadau 2009 fel rheoliadau cyfansawdd gan Weinidogion Cymru (mewn perthynas â Chymru) a'r Ysgrifennydd Gwladol. Maent yn llywodraethu ad-daliadau o fenthyciadau myfyrwyr gan fenthycwyr sydd wedi cymryd benthyciad yn seiliedig ar incwm ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl Medi 1998. Mae Rheoliadau 2009 yn cynnwys darpariaethau (heb eu datganoli i Weinidogion Cymru) a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru a Lloegr sy'n ymwneud â'r system dreth a weithredir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Gwneir rhai darpariaethau eraill gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr.

Gan y bydd y Rheoliadau'n destun craffu gan Senedd y DU, ni ystyrir ei fod yn rhesymol ymarferol i'r offeryn hwn gael ei wneud na'i osod yn ddwyieithog. Felly, mae Rheoliadau 2023 yn cael eu gwneud yn Saesneg yn unig.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Awst 2023